Achub dyn o'r môr ar benrhyn Gŵyr

Traeth Llangennydd ble cafodd caiacwr ei achub
Image caption Traeth Llangennydd ble cafodd caiacwr ei achub

Cafodd dyn mewn caiac ei achub o'r môr ger traeth Llangennydd ar benrhyn Gŵyr ddydd Llun.

Gwersyllwyr mewn parc carafanau gerllaw dynnodd sylw'r gwasanaethau brys ar ôl gweld y dyn mewn trafferthion yn y dŵr

Ond tra roedd Gwylwyr y Glannau Rhosili a thîm bâd achub Porth Tywyn ar eu ffordd i ymateb i'r galwadau 999 llwyddodd syrffiwr oedd ar y traeth i frwydro yn erbyn y gwynt a'r llanw uchel i ddod a'r caiacwr yn ôl i'r lan yn ddiogel.