Newid y gyfraith i helpu ffermwyr Cymru wedi'r eira?

Y ffermwr Gareth Wyn Jones Image copyright PA
Image caption Dywedodd y ffermwr Gareth Wyn Jones fod y tywydd garw wedi bod yn 'drychineb' gyda chymaint o anifeiliaid wedi marw

Gallai cyfreithiau sy'n atal claddu anifeiliaid sydd wedi marw gael eu llacio i helpu ffermwyr sydd wedi colli miloedd o ddefaid oherwydd yr eira.

Mae nifer o ffermwyr wedi dweud eu bod yn wynebu "trychineb" ar ôl y tywydd garw.

O dan reolau Ewropeaidd, mae hi'n anghyfreithlon claddu cyrff anifeiliaid ac mae'n rhaid talu cwmnïau i'w casglu.

Ond dywedodd prif filfeddyg Cymru, Christianne Glossop, fod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gyda chyfreithwyr i weld a oedd modd gwneud cais i addasu'r gyfraith.

Dywedodd NFU Cymru y byddai cynrychiolwyr yn cwrdd â'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Cymru, Alun Davies - sydd â chyfrifoldeb dros amaeth - ddydd Iau.

"Mae'n gyfle i drafod help brys," meddai llefarydd.

Rheolau Ewropeaidd

Mae'r gweinidog wedi cael ei feirniadu gan rai ffermwyr oedd eisiau i'r llywodraeth weithredu dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Dywedon nhw eu bod wedi treulio'r Pasg yn chwilio am eu hanifeiliaid mewn lluwchfeydd hyd at 15 troedfedd (4.57 metr) yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ond bu farw cannoedd ohonynt.

Mae rheolau Ewropeaidd yn golygu bod yn rhaid i ffermwyr gael gwared ar gyrff cyn gynted â phosib ond mae nifer wedi methu â gwneud hynny, gyda lorïau'n methu â chyrraedd at ffermydd a mynyddoedd.

Yn ôl llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, mae angen codi'r gwaharddiad fel bod ffermwyr yn gallu claddu eu hanifeiliaid neu ganiatáu i gyrff gael eu casglu am ddim.

Dywedodd yr Athro Glossop fod Mr Davies wedi gofyn iddi ystyried sut y gellid helpu ffermwyr.

"Mae ffermwyr yn dweud wrthym fod cymaint o anifeiliaid marw nes eu bod yn cael trafferth sicrhau eu bod yn cael eu casglu, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell ble mae'n anodd iawn gyrru lorïau i'r ffermydd," meddai wrth BBC Cymru.

"Ac mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn allan nhw wneud gyda'r anifeiliaid marw, prun ai yw hi'n bosib ai peidio i gyflwyno newid dros dro i'r gyfraith i'w gwneud hi'n bosib claddu'r anifeiliaid yn lle."

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a oedd modd helpu gyda'r gost o dalu cwmnïau i gludo'r anifeiliaid marw o'r ffermydd.

'Trychineb'

Roedd Gareth Wyn Jones, sy'n ffermwr yn Nyffryn Conwy, wedi beirniadu Mr Davies am beidio â gweithredu dros benwythnos gŵyl y banc.

Dywedodd ei fod e, ynghyd â thri ffermwr arall yn ardal Llanfairfechan, yn credu eu bod wedi colli 300 o ddefaid.

Mae dros 25 o ferlod mynydd hefyd wedi marw.

"Mae'n drychineb. Dyw'r bobl 'dwi'n 'nabod o gwmpas ffordd 'ma ddim wedi bod yn cysgu, 'dwi wedi colli stôn mewn pwysau," meddai Mr Jones.

"Rydym wedi cael wythnos ofnadwy, pob un ohonom, roedd pawb o'r gymuned amaeth a hyd yn oed pobl leol, wedi dod i'n helpu i chwilio am y defaid.

"Dyna 'dach chi'n ei wneud, torchi'ch llewys. Dydach chi ddim yn mynd ffwrdd am benwythnos, dim hyd yn oed y Pasg."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.