Achub cerddwyr ar Yr Wyddfa

Cafodd dau gerddwr canol oed eu hachub ar Yr Wyddfa brynhawn Mawrth.

Hofrennydd Sea King o Ganolfan Awyrlu'r Fali gafodd ei alw.

Roedd y ddau wedi crwydro o lwybr ac wedi mynd i drafferth yn y rhew a'r eira.

Chafodd neb ei anafu.

Dywedodd Phil Benbow o Dîm Achub Mynydd Llanberis: "Mi oedd achos tebyg arall, dau ddyn arall mewn trafferth ar y mynydd.

"Doedd y pedwar ddim yn cario bwyelli iâ nac yn gwisgo heyrn dringo," meddai.

Straeon perthnasol