Gweithiwr dur wedi ei losgi mewn digwyddiad ar safle Tata

Gwaith dur Tata Port Talbot Image copyright PA
Image caption Dwyedodd y cwmni nad oedd 'na gysylltiad uniongyrchol gyda'r dur toddedig

Mae gweithiwr ar safle dur Tata ym Mhort Talbot wedi cael ei losgi mewn damwain yn y gwaith yn ôl y cwmni.

Dywedodd Tata bod dur wedi ei doddi yn cael ei dywallt o long i graen pan ddigwyddodd y ddamwain.

Cafodd dau weithiwr arall driniaeth am sioc wedi'r ddamwain nos Fawrth.

Aed a'r tri i Ysbyty Treforys Abertawe.

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi eu hysbysu.

Dywedodd y cwmni bod y gweithiwr gafodd ei anafu mewn cyflwr cyfforddus yn yr ysbyty ac yn gwella o'r llosgiadau.

Canllawiau

Roedd y llosgiadau yn rhai pelydrol gan nad oedd 'na gysylltiad uniongyrchol gyda'r dur toddedig.

Mae'r ddau weithiwr arall wedi eu rhyddhau o'r ysbyty.

Cafodd y tri driniaeth gan weithwyr brys ar y safle cyn i'r parafeddygon gyrraedd.

O dan ganllawiau brys y safle fe gafodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu galw.

Dywedodd llefarydd ar ran Tata, Robert Dangerfield, bod iechyd a diogelwch yn parhau yn flaenoriaeth i'r cwmni.

"Rydym yn dysgu o hyd o bob digwyddiad.

"Rydym yn gweithio llawn amser ac mewn cynhyrchiad llawn hefyd.

"Mae'n meddyliau gyda'n cydweithiwr sydd wedi ei anafu."

Mae'r Gweithgor Iechyd wedi cadarnhau eu bod wedi eu hysbysu o ddigwyddiad yng Ngwaith Dur Tata ym Mhort Talbot nos Fawrth.

"Ymchwiliad cychwynnol ydi hyn, fe fydd ymchwilydd yn ymweld â'r safle," meddai llefarydd.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau eu bod wedi eu galw i'r digwyddiad am 11.45 nos Fawrth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.