Clwb criced Llanelwy yn apelio am £300,000 wedi llifogydd

Clwb criced Llanelwy Image copyright St Asaph Cricket club
Image caption Bydd raid ail-adeiladu glwb criced Llanelwy

Mae clwb criced Llanelwy wedi lansio apêl am £300,000 wedi i lifogydd effeithio ar y cae ym mis Tachwedd 2012.

Dywedodd y clwb fod aelodau wedi oedi cyn apelio am arian oherwydd i lawer o drigolion Llanelwy ddioddef colledion mawr.

Effeithiodd y llifogydd ar 330 o gartrefi, yn ôl arweinwyr cymunedol.

Dywedodd cadeirydd y clwb, Gareth Ryan, fod aelodau'n teimlo nad oedd eu problemau gymaint â rhai trigolion y ddinas.

"Gan fod rhai pobl yn symud yn ôl i'w tai a'r gwaith adfer yn dod yn ei flaen, roedden ni'n teimlo ei bod yn bryd i'r gymuned fod yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu ein clwb," meddai.

£20,000

Collodd y clwb werth £20,000 o offer a difrod i'r llawr a rhwydi ymarfer pan orlifodd Afon Elwy.

Mae cost dymchwel a darparu cyfleusterau dros dro ar gyfer y tymor newydd wedi ychwanegu £10,000 arall at y bil.

Mae apêl wedi cael ei lansio i dalu am yr atgyweirio ac i adeiladu clwb newydd gyda'r gobaith y bydd yn barod ar gyfer tymor 2014.

Bydd y gwaith adeiladu yn costio tua £300,000.

Yn y cyfamser, mae aelodau'r clwb yn ceisio paratoi am ddechrau'r tymor gan fod mwd ar y cae.

Bydd adeilad symudol yn cael ei ddefnyddio fel ystafell newid tra bod tafarn yn mynd i ddarparu lluniaeth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.