Masnachu pobl: 'Swydd heb ddannedd'

Llun pelydr-X o bobl yn cael eu cludo i'r wlad yn anghyfreithlon
Mae masnachu pobl yn broblem sydd ar gynnydd, medd elusennau

Mae grŵp o elusennau sy'n gweithio gyda dioddefwyr wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw swydd arloesol a sefydlwyd i fynd i'r afael â masnachu mewn pobl yng Nghymru yn ddigon annibynnol ar y llywodraeth ac nad oes ganddi ddigon o bŵer.

Masnachu mewn pobl yw'r ail drosedd fwyaf cyffredin ledled y byd ar ôl cyffuriau, ac yn cwmpasu nid yn unig plant ac oedolion sy'n cael eu masnachu i mewn ac allan o'r DU at ddibenion ecsbloetio rhywiol, ond hefyd dioddefwyr sy'n cael eu symud o gwmpas o fewn Cymru a'r DU.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Cydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl yn 2011 gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth a helpu dioddefwyr, ond mae'r pum elusen sy'n rhan o'r Fforwm Gwrth-Masnachu Dynol Cymreig wedi rhybuddio bod y rôl yn rhy agos i Llywodraeth Cymru i fod yn wirioneddol effeithiol.

Mae Steve Chapman, cyn ddirprwy gyfarwyddwr Asiantaeth Ffiniau'r DU, a gymerodd drosodd y swydd ym mis Tachwedd 2012, yn gwadu bod 'na diffyg annibyniaeth ac yn dweud mai mater i Lywodraeth Cymru oedd penderfynu a yw'r swydd yn gweithio fel y dylai.

'Penderfyniad i wleidyddion'

Mae'r disgrifiad swydd ar gyfer y swydd yn datgan y dylai "datblygu amgylchedd yng Nghymru sy'n elyniaethus i fasnachu mewn pobl" a chydlynu "y cymorth gorau posibl i ddioddefwyr a'r ymateb gorau posibl i'r bygythiad o fasnachu mewn pobl".

Mae Cymru Ddiogelach yn un o'r pum elusen yn y Fforwm, a dywedodd eu prif weithredwr Barbara Natasegara wrth BBC Cymru: "Rwy'n credu bod angen i'r swydd gael dannedd - dwi ddim yn credu fod ganddi ddannedd sylweddol ar hyn o bryd.

"Rwy'n credu bod angen iddi fod yn llawer mwy annibynnol.

"Mae'n gam mawr ymlaen ac rwy'n hynod falch o Gymru am sefydlu'r swydd, ond rydym yn bell i ffwrdd mewn gwirionedd o gael y cryfder a'r grym sydd angen ar y person hwnnw. "

Wrth ymateb i'r feirniadaeth, dywedodd Steve Chapman, "Mae hynny'n benderfyniad i wleidyddion wneud.

"Rwy wedi cael fy mhenodi gan Lywodraeth Cymru a byddai'n rhaid i'r gwleidyddion benderfynu os ydynt am wneud rhywbeth arall â'r rôl - nhw sydd yn fy nal i gyfrif."

Ychwanegodd Mr Chapman - a olynodd Bob Toobey i'r swydd fis Tachwedd diwethaf - ei fod wedi dod ag asiantaethau a sefydliadau yng Nghymru at ei gilydd i gydweithio'n well i fynd i'r afael â'r bygythiad o fasnachu mewn pobl ac amddiffyn a chefnogi dioddefwyr.

Mae'r rhain yn cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau megis yr heddlu, y Swyddfa Gartref, Asiantaeth Ffiniau'r DU, Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ogystal â sefydliadau anllywodraethol, y Comisiynydd Plant a'r bwrdd cyfiawnder ieuenctid.

34 o achosion

Roedd 34 o achosion o fasnachu mewn pobl yng Nghymru y llynedd, ond credir bod y rhan fwyaf o achosion yn mynd heb eu hadrodd.

Dywedodd un dioddefwr, a aned yng Nghymru ac a gafodd ei masnachu o gwmpas y wlad a'i hecsbloetio yn rhywiol ers yr oedd yn 13 oed: "Ar y pryd roeddwn yn cael fy symud o gwmpas i wahanol gyfeiriadau ac ardaloedd.

"Doeddwn i ddim wir ddim yn meddwl bod unrhyw beth o'i le â hynny - roeddwn i hyd yn oed yn meddwl ei fod yn eithaf cyffrous ac roeddwn i'n teimlo fel petawn i wedi tyfu i fyny.

"Ond yn awr dwi'n gwybod fy mod i wedi cael fy nefnyddio a'm twyllo ... nawr fy mod allan o'r sefyllfa ac yn edrych i mewn, gallaf weld yr hyn yr oedd, ecsbloetio rhywiol.

'Yr unig wlad'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i Gyfarwyddeb yr UE ar Fasnachu mewn Pobl, ac er bod cydymffurfio â'r gyfarwyddeb yn fater iddynt hwy, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â masnachu mewn pobl.

"Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd â Chydlynydd Atal Masnachu mewn Pobl ac mae'r Gweinidog a'r cydlynydd yn aelodau o Grŵp Rhyngadrannol Gweinidogol llywodraeth y DU.

"Rôl y cydlynydd yw gwneud Cymru mor elyniaethus i fasnachu mewn pobl ag y bo modd, i weithio gyda phartneriaid ar draws ystod eang o wasanaethau sector cyhoeddus a'r trydydd sector i ddarparu hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth a gwella'r sylfaen dystiolaeth i gadarnhau maint y broblem ledled Cymru.

"Gan nad yw'r mater wedi'i ddatganoli, byddai creu rôl annibynnol yn fater i lywodraeth y DU.

"Dylanwadu i'r eithaf drwy'r fframwaith deddfwriaethol presennol a thrwy gyd-drefnu ym mhob sector yw ein blaenoriaeth ar hyn o bryd. "