Llyfrgelloedd i gadw deunydd o'r we i'r cenhedlaethau i ddod

Y Llyfrgell Genedlaethol
Y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fydd un o'r chwe llyfrgell sy'n rhan o gofnodi'r deunydd digidol

Fe fydd deunydd sy'n cael ei gyhoeddi ar y we, gan gynnwys negeseuon ar Twitter a diweddariadau statws Facebook, yn cael eu cofnodi ar gyfer y genedl o dan reolau newydd sy'n dod i rym.

Mae gan y Llyfrgell Brydeinig, a phump o lyfrgelloedd eraill, gan gynnwys Y Llyfrgell Genedlaethol, hawl i gasglu a storio popeth sy'n cael ei gyhoeddi ar y we yn y DU o dan newid i Ddeddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 ar Ebrill 6.

Mae 'na amcangyfri' y bydd tua biliwn o dudalennau'r flwyddyn ar gael ar gyfer ymchwil.

Fe ddaw'r datblygiad ar ôl 10 mlynedd o gynllunio a bydd yn galluogi'r llyfrgelloedd i gasglu, cadw a darparu mynediad hirdymor at y ganran gynyddol o allbwn diwylliannol a deallusol y genedl sy'n ymddangos ar ffurf ddigidol - yn cynnwys blogiau, e-lyfrau a holl barth y we yn y DU.

Y llyfrgelloedd sy'n rhan o'r datblygiad ac yn mynd i fynd ati i gadw'r cynnwys yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban, Llyfrgelloedd y Bodley yn Rhydychen, Llyfrgell y Brifysgol yng Nghaergrawnt a Llyfrgell Coleg y Drindod yn Nulyn.

Fe fydd ganddyn nhw'r hawl i dderbyn copi o bob cyhoeddiad electronig yn y DU ar yr un sail ag y maen nhw'n derbyn cyhoeddiadau print fel llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd.

Eitemau electronig

Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y bydd y Llyfrgell, fel y Llyfrgell Brydeinig, y gallu i gadw cofnod parhaol a chynhwysfawr o gof y wlad a'i phobol.

"Bydd y swmp enfawr o wybodaeth ddigidol a gesglir gennym yn ategu'r gwaith mawr a wneir gan y Llyfrgell ar hyn o bryd wrth gasglu deunydd digidol ôl-dremol.

"Ymhen ychydig flynyddoedd bydd nifer yr eitemau electronig fydd yn ein gofal yn llawer iawn yn fwy na chyfanswm yr holl ddeunydd print a gasglwyd gennym ers canrif a fydd yn ei dro, yn creu adnodd amhrisiadwy i haneswyr y dyfodol."

Mae'r archif yn mynd i fod yn cofnodi deunydd o dros 4.8 miliwn o wefannau, o gylchgronau i lyfrau, o gofnodion academaidd i wefannau cymdeithasol fel Twitter, Facebook, Mumsnet a bwrdd neges answyddogol y Lluoedd Arfog, ARRSE.

Bydd y rheoliadau, yn sicrhau y gall deunyddiau byrhoedlog fel gwefannau gael eu casglu a'u cadw am byth gan sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr y dyfodol.

Dywedodd Ed Vaizey, Gweinidog dros Ddiwylliant Llywodraeth San Steffan, bod cynnal a chadw cofnod o'r holl ddeunydd printiedig yn sicrhau adnodd amhrisiadwy i ymchwilwyr presennol a'r rhai sydd i ddod.

"Felly, mae'n gwbl addas fod y trefniadau hirhoedlog yma wedi eu diweddaru ar gyfer anghenion yr 21ain Ganrif i gynnwys cyhoeddiadau digidiol y deyrnas unedig am y tro cyntaf.

"Mae'r Cydbwyllgor Adnau Cyfreithiol wedi gweithio mewn modd llwyddiannus iawn i greu polisïau a phrosesau ymarferol fydd yn sicrhau bod cynnwys digidol wedi ei archifo'n effeithiol a bod ein treftadaeth academaidd a llenyddol wedi ei gadw yn y ffurf iau angenrheidiol."

Colli deunydd

Tudalen Twitter
Caiff deunudd arlein megis Twitter ei gofnodi yn y llyfrgell

Yn ôl Ben Sanderson o'r Llyfrgell Brydeinig, mae nifer yn credu bod y wybodaeth ar y we yn parhau am byth.

"Ond mewn gwirionedd mae 'na ddeunydd ymchwil sylweddol eisoes wedi diflannu.

"Mae 'na lot o ddeunydd wedi ei golli gafodd ei bostio ar y we gan y cyhoedd yn ystod ymosodiad terfysgol 7/7.

"Mae blogiau ASau hefyd wedi eu colli wedi eu marwolaeth neu golli etholiad."

Ychwanegodd gyda chymaint o bobl yn cyhoeddi deunydd ar y we, hanner y stori a'r ddadl yw deunydd sydd mewn print o fewn hanes modern Prydain.

"Fe fyddai'n amhosib dweud hanes Etholiad Cyffredinol 2015 er enghraifft heb gael mynediad i'r hyn sydd ar y we."

Fe fydd y basdata newydd yn cwmpasu nifer o wahanol ddiddordebau gan gynnwys ffasiwn gan gofnodi be oedd pobl yn ei wisgo yn 2013.

Bydd mynediad at ddeunyddiau di-brint, yn cynnwys gwefannau wedi eu harchifo, ar gael trwy gyfleusterau yn y chwe llyfrgell benodol.