Arddangosfa'n archwilio defodau marwolaeth a chladdu

6 Ebrill 2013 Diweddarwyd 10:41 BST

Arddangosfa cerameg Julian Stair ar ddefodau claddu
Julian Stair gyda Figural Jar I
Mae arddangosfa cerameg newydd sydd yn canolbwyntio ar ddefodau marwolaeth a chladdu yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma arddangosfa gyntaf i'r crochenydd Julian Stair.
Figural Sarcophagus II gan Julian Stair
Mae’r arddangosfa yn ymchwilio i’r modd y caiff y corff dynol ei gadw wedi marwolaeth. Penllanw deng mlynedd o waith yw’r casgliad o jariau claddu ac eirch carreg maint llawn.
Figural Jar I & II gan Julian Stair
Dywedodd Stair: "Mae gymaint o chwedlau'r greadigaeth yn sôn am ffurfio dyn o glai. Mae yna rywbeth hynod ddwys am gymryd y deunydd yna a'i wneud yn wrn i fynd â'r corff yn ôl i mewn i'r ddaear."
Figural Jar I & II gan Julian Stair
Mae siâp y cistiau yma'n cynrychioli'r corff dynol o'r traed hyd at y gwddf.
Columbarium by Julian Stair
Mae Stair yn defnyddio porslen, crochenwaith caled a chlai brics mewn lluniau fel gwyn, coch a llwyd.
Llaw
Dywedodd Andrew Renton o Amgueddfa Genedlaethol Cymru: "Mae yna hen berthynas rhwng crochenwaith a defodau claddu, ac yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rydym yn defnyddio'r casgliad archaeoleg i wneud cysylltiadau rhwng gwaith Julian Stair a chrochenwaith a ddefnyddiwyd mewn claddedigaethau gan bobl hynafol Cymru. "
Figural Jar I gan Julian Stair yn y ffatri
Mae'r arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru tan 7 Gorffennaf 2013. Mae mynediad yn rhad ac am ddim.