Adroddiadau am gamdrin: Ymchwiliad

Swyddfa Cyngor Sir Benfro yn Hwlffordd Image copyright BBC Wales
Image caption Mae'r awdurdod yn dweud ei fod yn cyd-weithio â'r comisiynydd

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ymchwilio i honiadau bod Cyngor Sir Penfro wedi rhyddhau adroddiadau am ddeg o blant oedd wedi eu camdrin yn rhywiol i ddioddefwr arall.

Mae'r cyngor yn honni bod y person am weld y wybodaeth am ei hun, ond ei fod wedi derbyn manylion preifat am y lleill.

Mae swyddfa'r comisiynydd yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i weld a oedd y cyngor wedi torri'r Ddeddf Diogelu Data.

Mae'r awdurdod yn dweud ei fod yn cyd-weithio â'r comisiynydd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.