Damwain: Cludo pump i'r ysbyty

Mae pump o bobl wedi'u cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Y Trallwng.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi rhyddhau pump o bobl oedd yn sownd mewn dau gar, wedi gwrthdrawiad ar yr A483 am 9:36am ddydd Sadwrn.

Aed â phedwar mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig, a chludwyd y llall mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Gogledd Swydd Stafford, Stoke.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.