Woking 2-0 Wrecsam

Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Tlws yr FA Image copyright Getty Images
Image caption Chwaraewyr Wrecsam yn dathlu ennill Tlws yr FA ym mis Mawrth

Fe gollodd Wrecsam yn Woking, sy'n ergyd drom i obeithion y Dreigiau o ennill pencampwriaeth Uwchgynghrair Blue Square Bet.

Jayden Stockley, 19 oed, sgoriodd ddwy gôl Woking.

Mae Mansfield nawr 10 pwynt ar y blaen i Wrecsam, a naw o flaen Casnewydd. Er mai Kidderminster sydd ar frig y tabl maen nhw wedi chwarae dwy gêm yn fwy nag eraill o'u cwmpas.

Mae pedair gêm o'r tymor arferol nawr yn weddill.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET
Chwaraewyd Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Kidderminster 44 37 87
2. Mansfield 42 37 86
3. WRECSAM 42 30 76
4. CASNEWYDD 41 22 75
5. Grimsby 42 27 73

Straeon perthnasol