Ymchwilio i dân ar stad ddiwydiannol

  • 7 Ebrill 2013
GLJ Recycling, Cross Keys (llun gan Glwb Pêl-law Abertawe) Image copyright Swansea City Handball Club
Image caption Roedd tua 700 tunnell o fetal scrap ar y safle ar y pryd

Mae gwasanaeth tân y de yn ymchwilio i dân ar safle ailgylchu yn Cross Keys yn sir Caerffili ddydd Sadwrn.

Dechreuodd y tân tua un o'r gloch y prynhawn yn adeilad cwmni GLJ Recycling ar stad ddiwydiannol Newtown.

Roedd tua 700 tunnell o fetal scrap ar y safle ar y pryd.

Image copyright @BigWelshBear
Image caption Roedd rhai trigolion lleol wedi clywed ffrwydrad cyn y tân