Alys i gael ei mentora gan Syr Tom Jones

  • 7 Ebrill 2013
Alys Williams
Alys: "Roedd dod yn ôl am yr eildro yn fenter anferth!"

Bydd mam 22 oed o Gaernarfon yn cael ei mentora gan Syr Tom Jones ar ôl creu argraff wrth ganu ar raglen y BBC 'The Voice' nos Sadwrn.

Y llynedd ni lwyddodd Alys Williams i gael ei dewis gan yr un o'r beirniaid, ond nos Sadwrn fe blesiodd bob un o'r pedwar wrth ganu The Cave gan Mumford & Sons.

Bu'n rhaid iddi ddewis, felly, pa un o'r pedwar - Jessie J, Will.i.am, Danny O'Donoghue neu Syr Tom - fyddai'n ei mentora ac fe ddewisodd ei chyd-wladwr.

Roedd yntau wedi dweud wrthi ei fod e'n rhagori ar y beirniaid eraill am fod ganddo "brofiad, profiad a phrofiad".

Dywedodd Alys: "Y llynedd fe gafodd y nerfau'r gorau arna i, fedrwn i ddim anadlu, fe wnes i dagu ac fe wnaeth fy llais ddarfod.

"Roedd fel bod yn y môr efo siarc yn dod ar fy ôl.

"Roedd dod yn ôl am yr eildro yn fenter anferth!"

Fe fydd Alys ar raglen Dafydd a Caryl ddydd Llun am 8.30am ar BBC Radio Cymru.