Pwy arall sy’n byw yng Nghwmderi?

Criw PYC Image copyright BBC Cymru
Image caption Criw PYC

Nos Lun fe fydd y gyntaf o bum pennod fer mewn cyfres aml-blatfform arloesol o Pobol y Cwm (PYC) yn cael ei darlledu ar y we.

Cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru, sy'n gyfrifol am y gyfres, ond er ei bod yn seiliedig ar rai o gymeriadau'r opera sebon nosweithiol, mae'r straeon yn fwy pigog a'r profiad yn wahanol.

Fe fydd y gyfres i'w gweld ar wefan s4c.co.uk/pyc am 9pm am wythnos.

Ers wythnos mae gwylwyr wedi medru dilyn helyntion y cymeriadau ar Twitter (@s4cPyc) a thrafod y straeon sy'n "gwthio'r ffiniau" ar Facebook.

Bwriad y prosiect yw apelio at oedolion ifanc ac mae'r awduron yn chwilio am ffyrdd gwahanol i adrodd stori.

Dywed y cynhyrchwyr bod y straeon yn sefyll ar eu traed eu hunain, heb amharu ar lif y gyfres deledu, Pobol y Cwm.

Cynhyrchydd PYC yw Hannah Thomas, sy'n brofiadol iawn yn y byd aml-blatfform.

"Mae hyn yn gyfle gwych i ni fynd o dan groen rhai o'n prif gymeriadau ac i gyflwyno rhai newydd, ffres," eglurodd.

"Yn ogystal, mae PYC yn blatfform gwych i ni ddatblygu talent newydd y tu ôl - ac o flaen y camera."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.