Y Farwnes Thatcher
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y Farwnes Thatcher wedi marw

9 Ebrill 2013 Diweddarwyd 11:10 BST

Mae'r Farwness Margaret Thatcher wedi marw.

Roedd hi wedi diodde' strôc fawr ddydd Llun.

Roedd hi'n 87 oed.

Caiff ei chofio fel y wraig gynta' i fod yn Brif Weinidog ar Brydain a'r Prif Weinidog fu hira' mewn grym yn yr 20fed Ganrif.

Caiff ei chofio fel arweinydd cadarn ac am geidwadaeth newydd a fathwyd fel Thatcheriaeth.

Cymysg oedd y farn amdani a hynny yn arbennig yng Nghymru - gyda nifer o ddigwyddiadau ei chyfnod - fel streic y glowyr a sefydlu S4C - yn gadael eu hol hyd heddiw.

Adroddiad Ellis Roberts.