Gwaddol Margaret Thatcher yn y papurau

Mae papurau newydd dydd Mawrth yn llawn ymateb i farwolaeth y Fonesig Thatcher a dadansoddiadau o'i gwaddol.

Mae'r Times yn dweud iddi drawsnewid Prydain "yn llwyr, yn barhaol a thrwy rym noeth ei phersonoliaeth".

Yn y Telegraph, mae cofiannydd y Farwnes, Charles Moore, yn adlewyrchu ar wladgarwch Margaret Thatcher - cariad meddai oedd yn amlycach fyth yn ei gweithredoedd nac yn ei geiriau.

Mae'r Guardian yn arwain gydag erthygl ysgrifenwyd ddegawd yn ôl gan Hugo Young, ddyddiau cyn ei farwolaeth yntau.

Yn y Daily Mirror, ceir sôn am "y ddynes a rannodd y genedl".

Yng Nghymru, mae'r Western Mail wedi neilltuo dwsin o dudalennau i wahanol agweddau, gan gynnwys erthygl olygyddol sy'n dweud iddi "drawsnewid Prydain a charfannu'r genedl yn y broses".

Yn yr un papur, mae'r cyn-filwr a anafwyd yn ystod rhyfel y Falkland, Simon Weston, yn dadlau mai Margaret Thatcher oedd arweinydd mwyaf Prydain mewn cyfnod o ryfel ers Winston Churchill, tra bod Mario Basini yn dweud iddi niweidio economi Cymru.

Mae erthygl ar wefan Golwg 360 yn trafod streic y glowyr, gyda phersbectifau gwahanol gan yr AS Ceidwadol Guto Bebb ac Idwal Morgan o undeb glowyr yr NUM.

Straeon perthnasol