Cynyddu cyflymder ffonau 4G i gwsmeriaid yng Nghaerdydd

Cynyddu cyflymder ffonau 4G
Image caption Cyflymder ffonau symudol 4G yn dyblu

Mae'r gweithredwyr ffonau symudol EE wedi cyhoeddi y byddan nhw'n dyblu cyflymder ffonau 4G.

Bydd y newid yn golygu y bydd cwsmeriaid yn medru pori ar y we yn llawer cyflymach.

Ar hyn o bryd cyflymder o ryw 8-12Mbps sydd ar y rhwydwaith.

Ond erbyn yr haf bydd wedi cyrraedd 20 Mbps mewn 10 tref ym Mhrydain gan gynnwys Caerdydd.

Mae hyn llawer cynt na'r cyflymder sydd ar gael gyda ffonau 3G sydd ar gyfartaledd yn rhyw 5-7 MB/s.

Mae'r cwmni yn dweud ei bod nhw wedi gweld newid yn y ffordd mae pobl yn defnyddio eu ffonau gyda llawer mwy yn gwylio fideo ac yn defnyddio teclynnau mapiau erbyn hyn.

Gobaith EE yw cyrraedd dros un filiwn o gwsmeriaid 4G erbyn diwedd y flwyddyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.