Talu teyrnged i Margaret Thatcher
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Teyrngedau i'r Farwnes Thatcher

9 Ebrill 2013 Diweddarwyd 14:49 BST

Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron, wedi cadarnhau y bydd angladd y Farwnes Thatcher ddydd Mercher nesa yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain.

Cafodd corff y cyn brif weinidog, fu farw ddydd Llun, ei symud o Westy'r Ritz lle treuliodd ei dyddiau ola'.

Fe fydd ei hangladd yn un seremonïol gydag anrhydedd milwrol ac fe fydd y Frenhines a Dug Caeredin yn bresennol.

Mae'r Senedd yn ailgynnull ddydd Mercher er mwyn rhoi teyrngedau i'r Farwnes Thatcher.

Adroddiad Aled ap Dafydd.