Ffatri ym Mhowys dan fygythiad yn dilyn arolwg

Mae cwmni sy'n cynhyrchu cydrannau ceir ac yn cyflogi mwy na 150 o bobl ym Mhowys yn ymgynghori â staff ynghylch cynlluniau i symud i Sir Amwythig.
Daw'r newyddion wedi arolwg cwmni Shimizu Industry UK (SI-UK) yn Y Trallwng ar ôl i gorfforaeth Denso o Japan gymryd y cwmni drosodd.
Mae SI-UK yn cyflogi 159 yn Y Trallwng ond does dim gwybodaeth a fydd y staff yn cael cynnig swyddi yn ffatri'r cwmni yn Telford, 35 milltir i ffwrdd.
Mae'r cwmni yn cynhyrchu cydrannau ceir ar ran cwmnïau fel Jaguar, Honda, Toyota, a Land Rover.
Arolwg
Dywedodd Denso fod SI-UK yn cyflogi 136 o staff a 23 o weithwyr asiantaeth a'u bod wedi cynnal arolwg o'r ffatri yn Y Trallwng ym mis Chwefror.
"Rydym yn ymgynghori â staff Shimizu oherwydd adleoli arfaethedig i Telford," meddai Sjoerd Dijkstra, llefarydd ar ran Denso.
Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n ystyried opsiynau posib ad-drefnu cynhyrchu yn y DU, gan gynnwys dyfodol tymor hir y safle yn Y Trallwng.
Mae Denso yn cyflogi 120,000 mewn 30 o wledydd.