Dewis datblygwyr ar gyfer cynllun £20m yn Llanedern

Cynlluniau ar gyfer canolfan siopa newydd Llanedern Image copyright Cyngor Caerdydd
Image caption Bydd siopau newydd, cartrefi a chyfleusterau cymunedol yn lle'r ganolfan bresennol

Mae cynllun gwerth £20 miliwn i adfer hen ganolfan siopa ar stad yng Nghaerdydd gam yn nes wedi i ddatblygwyr gael eu dewis.

Gallai'r gwaith yn Llanedern ddechrau'r flwyddyn nesaf os bydd y cynllun yn cael caniatâd cynllunio.

Bydd siopau newydd, cartrefi a chyfleusterau cymunedol yn lle'r ganolfan bresennol.

Bydd datblygiad Partneriaeth Adfywio Maelfa hefyd yn cynnwys llyfrgell a chanolfan gymdeithasol.

Arweinir y prosiect gan gwmni Datblygu Bouygues sy'n cydweithio â Chymdeithasau Tai, cwmnïau adeiladu a phenseiri.

Dywedodd Lynda Thorne, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am Gymunedau, Tai a Chyfiawnder Cymdeithasol: "Bydd y prosiect yn darparu canolfan newydd, cyfleusterau a gwasanaethau y mae'r gymuned eu gwir angen."

Agorwyd y ganolfan siopa bresennol ym Maelfa ym 1974 i wasanaethu'r stadau tai preifat a chymdeithasol gafodd eu codi yn yr ardal yn y 1960au.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.