Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod

Pafiliwn Pontrhydfendigaid Image copyright Arall
Image caption Cafodd y pafiliwn grantiau o £2.3m, yn benna' oherwydd arian Amcan Un.

Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod oherwydd mae'r cwmni oedd yn ei gynnal, Pafiliwn Cyf, wedi dod i ben yn wirfoddol.

Y rheswm yw'r hinsawdd economaidd a llai o ddefnydd o'r adnodd.

Ond mae cadeirydd y cwmni, John Watkin, wedi dweud na fydd y pafiliwn yn cau'n derfynol.

Ac mae trefnwyr Eisteddfod Pantyfedwen Pontrhydfendigaid yn pwysleisio y bydd yr Eisteddfod yn mynd yn ei blaen dros benwythnos Gŵyl y Banc ddechrau Mai.

Dydi hi ddim yn glir a fydd y cystadlaethau yn cael eu cynnal yn y pafiliwn.

'Trist iawn'

Dywedodd Elin Jones AC: "Hwn yw'r trydydd sefydliad elusennol i fynd i'r wal yng Ngheredigion ers chwe mis.

"Mae'n drist iawn."

Fe eglurodd Mr Watkin bod y banc wedi bod yn gwasgu arnyn nhw i ad-dalu £80,000.

"Dy'n ni ddim yn gallu talu dyledion a dy'n ni ddim eisie bod yn yr un picil mewn 18 mis," meddai.

"Do's dim colledion mawr ond y ffaith yw mae'r defnydd o'r pafiliwn ers blwyddyn wedi gostwng yn syfrdanol.

"Ro'dd y tair blynedd gynta' yn dda iawn ond erbyn hyn, do's dim staff amser llawn i redeg y pafiliwn."

Fe fydd y brydles yn cael ei rhoi ar werth.

Mae'r adeilad ei hun yn eiddo i Ymddiriedolaeth Eisteddfodau Pantyfedwen Pontrhydfendigaid.

Dywedodd Delyth Hopkin Evans, Cadeirydd Eisteddfod Pantyfedwen Pontrhydfendigaid y bydd yr Eisteddfod yn mynd yn ei blaen rhwng Mai 3 a 6.

"Os na fydd y pafiliwn ar gael fe fyddwn ni'n cynnal y cyfan yn y Neuadd Fach drws nesa'.

"Rydym yn gwbl gadarnhaol. Fe fydd 'na weithgaredd dros y penwythnos.

"Rydym wedi bod yn ymwybodol fod y cwmni wedi bod yn arafu ac yn ei chael yn anodd cael digwyddiadau ond roedd clywed hyn yn sioc ac yn dristwch ar y diwedd fel hyn gan eu bod wedi gweithio yn galed i gael llawer iawn o ddigwyddiadau pwysig yna."

£2.3m

Mae disgwyl i'r Ŵyl Gerdd Dant gael ei chynnal yno ym mis Tachwedd.

Ychwanegodd Dewi Jones, Trefnydd yr Ŵyl, ei bod yn anodd gwybod a fyddai modd cynnal hi yn y pafiliwn ond y broblem oedd "nad oes 'na unlle tebyg iddo yn yr ardal".

"Dyma fydd y trydydd tro i'r ŵyl gael ei chynnal yno.

"Mae'n bafiliwn sy'n gallu cael ei addasu ar gyfer unrhyw beth.

"Mae 'na gynlluniau wrth gefn ... yn sicr, fe fydd yr ŵyl ymlaen ac os na fydd yr ŵyl yn y pafiliwn fe fydd yn yr ardal.

"Mae colli'r pafiliwn yn ofnadwy, fel colli'r Albert Hall yn Llundain."

Agorodd y pafiliwn newydd yn 2007 ar ôl i Gyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru gefnogi gwaith adnewyddu.

Fe gafodd grantiau o £2.3m, yn benna' oherwydd arian Amcan Un.

Mae Eisteddfodau Sir yr Urdd, gweithgareddau Ffermwyr Ifanc, cystadleuaeth Cân i Gymru, Gŵyl Ddathlu 50 Cymdeithas yr Iaith ac arddangosfeydd wedi eu cynnal yno.

'Arwrol'

Ychwanegodd Ms Jones: "Dwi'n edmygu gwaith arwrol y rhai adferodd y lle ac sy' wedi ei gynnal.

"Mae wedi bod yn arwrol ar adeg o gyni economaidd."

Ac fe ddywedodd Mr Watkin nad oes 'es ddigwyddiadau mawr ar gyfer y flwyddyn nesa'.

"Mae'r adnodd yn ffantastig ond mae llai o arian yn cael ei gylchdroi yn y parthe hyn ar gyfer digwyddiade mawr.

"Yn y cyfamser, gobeithio y bydd rhywun yn prynu'r brydles."