Golff: Dau Gymro yn Augusta

Jamie Donaldson proudly displays the Abu Dhabi Championship trophy Image copyright Reuters
Image caption Jamie Donaldson enillodd Bencampwriaeth HSBC yn Abu Dhabi ym mis Ionawr

Am y tro cyntaf ers 2004, fe fydd dau Gymro'n cystadlu yn un o gystadlaethau golff mwya'r byd, Meistri'r Unol Daleithiau.

Fel cyn-enillydd, mae gan Ian Woosnam yr hawl i gystadlu ar gwrs enwog Augusta National am weddill ei oes, ac fe fydd Jamie Donaldson o Bontypridd yn ymuno ag ef eleni wedi tymor llwyddiannus yn 2012.

Donaldson, 38 oed, oedd enillydd Pencampwriaeth Agored Iwerddon ym mis Gorffennaf y llynedd, ac fe gafodd berfformiad gwych ym Mhencampwriaeth PGA Prydain gan orffen yn gydradd seithfed yn un o bencampwriaeth 'mawr' byd golff.

Dechreuodd eleni yn wych hefyd gyda buddugoliaeth y Mhencampwriaeth HSBC yn Abu Dhabi ym mis Ionawr.

Heblaw am Woosnam, Bradley Dredge oedd y Cymro diwethaf i gystadlu yn y Meistri yn 2007 pan oedd Woosnam yn absennol, gyda Phil Price yn ymddangos yno gyda Woosnam yn 2004.

Dechrau cynnar

Fe fydd Woosnam yn un o'r cyntaf i daclo'r cwrs ar ddechrau'r gystadleuaeth fore Iau.

Bydd yn taro'i ergyd gyntaf am 8:22am (1:22pm amser Cymru) fel rhan o driawd sy'n cynnwys David Lynn o Loegr a'r Americanwr Kevin Na.

Dros dair awr yn ddiweddarach fe fydd Donaldson yn cael ei gyfle - y ddau fydd yn chwarae gydag ef yw'r Albanwr Martin Laird a phencampwr y Meistri yn 1998, Mark O'Meara.

Fe fydd Donaldson yn elwa o gael cwmni rhywun gyda phrofiad O'Meara, ond datgelodd hefyd ei fod wedi bod yn casglu gwybodaeth gan rhai o'r Prydeinwyr eraill fydd yn Augusta.

"Rwyf wedi chwarae gyda Justin Rose ac Ian Poulter ac yn cael 'tips' wrth fynd o gwmpas y cwrs, ac mae hynny wedi bod yn help mawr," meddai.

"Fedrwch chi ddim prynu profiad. Mae'n rhaid i chi chwarae'r cwr a dysgu oddi wrtho.

"Rwyf wedi gwylio'r gystadleuaeth ar y teledu droeon, ac mae'r ffaith fy mod i yma o'r diwedd yn gyffrous iawn.

"Mae'r lawntiau yn llawer llai fflat nag y maen nhw'n ymddangos ar y teledu. Roeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n anodd, ond maen nhw'n waeth fyth i chwarae."

Ers buddugoliaeth Woosnam yn 1991, y perfformiad gorau yn Augusta gan Gymro oedd pan orffennodd Phil Price yn 35ed yn 2004.

Bydd Donaldson yn gobeithio gwella ar hynny fore Iau.

Straeon perthnasol