Cofgolofn newydd o beiriannydd enwog yn Sir Benfro

Safle'r cerflun gwreiddiol ger marina Neyland
Image caption Cafodd y cerflun gwreiddiol ei ddwyn ym mis Awst 2010

Bydd cofgolofn efydd newydd o'r peiriannydd Isambard Kingdom Brunel yn cael ei ddadorchuddio yn Neyland, Sir Benfro ddydd Sadwrn.

Bydd y gofgolofn yn cymryd lle un debyg gafodd ei ddwyn o'i safle ger y marina yn y dref ym mis Awst 2010.

Costiodd y cerflun gwreiddiol £30,000 pan gafodd ei godi yn 1999.

Cafodd y cerflun, a wnaed gan y diweddar Robert Thomas, ei ddadorchuddio gan Dywysog Cymru.

Robert Thomas a greodd hefyd y cerflun o Aneurin Bevan ar Stryd y Frenhines Caerdydd.

Bydd y cerflun yn cael ei ddadorchuddio yng Nghei Brunel am 2pm.