
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Rhiwbeina: Dathlu canmlwyddiant
12 Ebrill 2013 Diweddarwyd 07:42 BST
Mae 'na ddathliadau yn cael eu cynnal yn Rhiwbeina ddydd Gwener i nodi 100 mlynedd ers sefydlu'r pentref yng ngogledd Caerdydd.
Cafodd y tai cyntaf eu codi yno yn 1913 er mwyn cynnig mwy o le ac awyr iach i weithwyr diwydiannol.
Mae'r pentref gardd yn un o'r rhai prin sydd yn bodoli yng Nghymru a bydd yna blac yn cael ei ddadorchuddio yn ystod y digwyddiad.
Alun Thomas sydd wedi bod yn holi trigolion Rhiwbeina am hanes y pentref.