
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Holi un o arlunwyr enwoca' Cymru
12 Ebrill 2013 Diweddarwyd 07:48 BST
Mae gwaith un o arlunwyr enwoca' Cymru yn cael ei arddangos mewn amgueddfa newydd.
Bydd yn bosib gweld darluniau Gwilym Prichard yn oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd.
Mae'r gŵr o Lanystumdwy, Gwynedd, yn adnabyddus am ei luniau tirwedd o Gymru a thramor ac wedi bod yn eu creu ers 60 mlynedd.
Ar ôl treulio cyfnod yn byw i ffwrdd mae wedi dychwelyd yn ôl i Gymru i fyw yn Ninbych y Pysgod.
Gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru, Huw Thomas, fu'n ei holi.