Casnewydd yn codi i'r trydydd safle wedi buddugoliaeth yn erbyn Macclesfield

Andy Sandell Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Andy Sandell gyda chic o'r smotyn i ddod â Chasnewydd yn gyfartal

Casnewydd 4-1 Macclesfield

Mae Casnewydd wedi codi i'r trydydd safle, uwchben Wrecsam, yn nhabl Uwchgynghrair y Blue Square ar ôl buddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Macclesfield nos Iau.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wedi tri munud gydag ergyd lwyddiannus Jay Burgess.

Ond fe ddaeth ymdrech Christian Jolley a'r tîm cartref yn gyfartal wedi 24 munud cyn i Andy Sandell lwyddo gyda chic o'r smotyn.

Yn y funud ola' o'r hanner cyntaf fe wnaeth Robbie Willmott rwydo'n benderfynol.

Ail gôl Willmott oedd unig gôl yr ail hanner wnaeth selio'r fuddugoliaeth haeddiannol i'r Alltudion.

Mae gan Gasnewydd obaith o hyd i ennill y bencampwriaeth, er ei fod yn un tenau iawn.

Gyda thair gêm yn weddill maen nhw wyth pwynt tu ôl i Mansfield sydd ar y brig.

Maen nhw chwe phwynt tu ôl i Kidderminster sy'n ail ac sydd wedi chwarae un gêm yn fwy na nhw.

Dyma oedd y pedwerydd tro yn olynnol i Macclesfield golli ac maen nhw wedi syrthio i'r nawfed safle.

Cytundeb

Fe ddaeth y fuddugoliaeth oriau wedi'r cyhoeddiad bod rheolwr Casnewydd, Justin Edinburgh, wedi arwyddo cytundeb sy'n ymestyn ei gyfnod gyda'r clwb am ddwy flynedd arall.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cyn y gêm daeth y newydd fod y rheolwr Justin Edinburgh wedi arwyddo am ddwy flynedd arall gyda Chasnewydd

Mae'n golygu y bydd y rheolwr 43 oed gyda'r clwb tan ddiwedd tymor 2015-16.

Ac mae Jimmy Dack wedi cytuno ar ddwy flynedd arall gan barhau i fod yn gynorthwy-ydd i Edinburgh.

"Roedd yn benderfyniad hawdd i ni ei wneud," meddai Edinburgh.

"mae'r bobl yn angerddol eu pêl-droed yma ac mae gen i a Jimmy yr un dyhead, i weld Casnewydd yn dychwelyd i'r Gynghrair.

"Mae'r bwrdd a'r cadeirydd wedi cefnogi'r amcanion hynny.

"Rydym yn falch ein bod yn gallu parhau gyda'r cynllun ar gyfer y dyfodol."

Bydd Casnewydd yn croesawu Alferton i Rodney Parade ddydd Sadwrn.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET
Chwaraewyd Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Mansfield 43 39 89
2. Kidderminster 44 37 87
3. CASNEWYDD 43 26 81
4. WRECSAM 43 31 79
5. Grimsby 43 28 76

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.