Northants yn dechrau rheoli

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Un wiced a gipiodd Morgannwg ar fore'r trydydd diwrnod o'r gêm bencampwriaeth yn erbyn Sir Northampton yn Stadiwm Swalec.

Michael Reed gipiodd wiced Andrew Hall, ond mae'r ymwelwyr yn dechrau rheoli, gan gynyddu eu mantais yn y batiad cyntaf.

Dechreuodd yr ymwelwyr ar 145 am 5 wedi i'r glaw amharu ar y chwarae ddydd Iau, ond er bod y tywydd wedi gwella ddydd Gwener, doedd dim gwella ar hwyliau tîm Matthew Mott.

Ychwanegodd Hall a James Middlebrook 57 at y sgôr dros nos cyn i Hall gael ei ddal gan Ben Wright oddi ar fowlio Reed.

Erbyn yr egwyl ddydd Gwener, roedd yr ymwelwyr wedi sicrhau mantais o 84 dros Forgannwg yn eu batiad cyntaf gyda phedair wiced yn weddill.

Mae'r rhagolygon yn addo tywydd amrywiol dros y deuddydd nesaf, ac mae'n ymddangos ar hyn o bryd mai gêm gyfartal yw'r canlyniad mwyaf tebygol.

Morgannwg v Sir Northampton - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Sgôr amser cinio'r trydydd diwrnod :-

Morgannwg (batiad cyntaf): 134 (50 pelawd)

Northampton (batiad cyntaf) 218 am 6 (71 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.