Ffermwyr yn apelio eto am arian gan Lywodraeth Cymru

Defaid mewn eira yn Sir y Fflint
Mae'r eira trwm fis Mawrth wedi arwain at golledion i'r amaethwyr

Mae arweinwyr undebau amaethyddol wedi ysgrifennu llythyr agored at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi ail-ystyried rhoi cymorth ariannol i'r rhai ddioddefodd golledion oherwydd eira mis Mawrth.

Maen nhw wedi beirniadu gweinidogion am gau'r drws ar gyllid argyfwng sydd, yn ôl yr undebau, ar gael i ffermwyr mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae rhai ffermwyr mewn rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru yn dal i geisio dod o hyd i'w hanifeiliaid sydd wedi eu claddu yn yr eira.

Hyd yma mae'r gweinidog sy'n gyfrifol, Alun Davies, wedi gwrthod cynnig cymorth ariannol.

Estyniad

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ymestyn llacio'r rheolai sy'n ymwneud â chladdu anifeiliaid marw ar dir fferm am wythnos ychwanegol mewn ymgais i gynorthwyo'r diwydiant.

Gwrthododd alwadau am iawndal, ond mae arweinwyr pedwar corff sy'n cynrychioli ffermwyr Cymru wedi gofyn iddo newid ei feddwl.

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan y ddau undeb - NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru - llywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru a chadeirydd cymdeithas tirfeddianwyr y CLA yng Nghymru.

Maen nhw'n dweud eu bod yn cydnabod bod llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru wedi bod yn dda i'w diwydiant amaeth ar y cyfan, a'u bod hefyd yn derbyn cymhorthdal sylweddol o arian yr Undeb Ewropeaidd.

'Angen tystiolaeth'

Ond maen nhw'n ychwanegu: "Yng Nghymru mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi cau'r drws ar gymorth ariannol argyfwng cyn eu bod yn gwybod maint y broblem sy'n parhau wrth i'r eira gilio.

"Dadl Llywodraeth Cymru mae'n debyg yw bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y colledion yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU.

"Ond o'n safbwynt ni mae'r colledion ar rai ffermydd yng Nghymru yn ddim gwahanol i'r rhai yn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ac mewn rhai achosion maen nhw'n bygwth busnesau."

Mae'r llythyr yn ychwanegu: "Mae'r ffermwyr yma angen tystiolaeth bod Llywodraeth Cymru yn poeni amdanyn nhw.

"Dydyn nhw ddim yn ceisio cael mantais o ganlyniad i'r amgylchiadau neilltuol y maen nhw wedi bod drwyddyn nhw, ond maen nhw'n gofyn i Lywodraeth Cymru eu trin yn gyfartal ag eraill sy'n diodde' yn yr un modd mewn rhannau eraill o'r DU."

Deellir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hymateb i'r llythyr.