Dod o hyd i gyrff mam oedrannus a'i merch

Blodau y tu allan i'r cartef yn Llanfair-ym-Muallt
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r ddwy

Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth mam 107 oed a'i merch 69 oed.

Daethpwyd o hyd i'r cyrff yn Llanfair-ym-Muallt ychydig wedi 10am ddydd Llun.

Yn ôl pobl lleol Barbara Innes a'i merch Griselda Folkard oedd y ddwy.

Dywedodd yr heddlu fod y marwolaethau'n "sydyn".

Mae archwiliadau post-mortem wedi eu cynnal.