Y Meistri: Y Cymry'n wynebu talcen caled

Jamie Donaldson Image copyright Reuters
Image caption Jamie Donaldson enillodd Bencampwriaeth HSBC yn Abu Dhabi ym mis Ionawr

Fydd Ian Woosnam ddim yn parhau yn Y Meistri ac mae'n bosib na fydd Jamie Donaldson yn y drydedd rownd ddydd Sadwrn.

Mae rheolau'r gystadleuaeth yn gadael i naill ai'r 50 o chwaraewyr gyda'r sgôr orau neu'r chwaraewyr sydd o fewn 10 ergyd i'r chwaraewr sydd ar y blaen yn y bencampwriaeth i fynd ymlaen i chwarae yn y drydedd rownd.

Gorffennodd Donaldson, 38 oed, yr ail rownd gyda 75 pwynt, 3 ergyd yn waeth na'r safon.

Trychinebus

Cyflawnodd Donaldson dwll mewn un ar chweched twll y cwrs yn ystod ei rownd gyntaf yn Augusta.

Cafodd Woosnam bencampwriaeth drychinebus gan sgorio 80 yn ei rownd gyntaf.

Yn yr ail rownd cafodd sgôr o 78, chwe ergyd yn waeth na'r safon.

Am y tro cyntaf ers 2004 mae dau Gymro'n cystadlu yn Y Meistri.

Fel cyn-enillydd, mae gan Woosnam yr hawl i gystadlu ar gwrs enwog Augusta National am weddill ei oes.

Ers buddugoliaeth Woosnam yn 1991, y perfformiad gorau yn Augusta gan Gymro oedd pan orffennodd Phil Price yn 35ed yn 2004.

Pencampwriath y Meistri'r Unol Daleithiau: Ail Rownd

1. Fred Couples (America): -1 (71)

2. Marc Leishman (Awstralia): 1 ar ôl 16 twll

=62. Jamie Donaldson (Cymru): +3 (75)

88. Ian Woosnam (Cymru): +6 (78)

Straeon perthnasol