Pryder am filwr ar goll

Josh Thomas Image copyright Kent Police
Image caption Roedd Josh Thomas wedi bod allan gyda ffrindiau ar y noson yr aeth ar goll

Mae heddlu yng Nghaint yn bryderus am filwr 18 oed o Gymru wedi bod ar goll ers dros dri diwrnod.

Cafodd Josh Thomas ei weld am y tro diwethaf ychydig cyn 1:00am fore Mercher ar ôl treulio noson gyda ffrindiau yn nhafarn y City Wall yn Rochester.

Mae'r milwr, y credir ei fod yn hanu o Abertawe, yn gweithio ym marycs Brompton yn Chatham.

Mae Heddlu Caint yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd iddo.

Roedd lluniau o gamerâu cylch cyfyng yn ei ddangos yn cerdded dros bont Rochester ac ar hyd Stryd Corporation yn dilyn ei ymweliad â'r dafarn.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn tua 5'9" o daldra, gyda chorff tenau a gwallt byr brown.

Roedd yn gwisgo siwmper las tywyll gyda choler coch a gwyn o wneuthuriad Lyall & Scott, jeans llwyd ac esgidiau gwyn Converse.

Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i'w ffonio ar 101 gan nodi cyfeirnod 10-0243, neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.