Cwmni'n cyflogi 25 o weithwyr yn Y Bala

Ffatri Cake Crew Y Bala
Image caption Dywedodd y cwmni mai gwaith caled y gweithlu oedd wedi arwain at fwy o archebion

Mae cwmni yng Ngwynedd yn bwriadu cyflogi 25 o weithwyr ychwanegol, gan ddweud bod nifer yr archebion am eu cynnyrch wedi cynyddu.

Dywedodd cwmni Cake Crew yn Y Bala eu bod wedi derbyn mwy o archebion gan archfarchnadoedd ar gyfer eu cacennau bach.

Cake Crew yw un o brif gyflogwyr yr ardal ac mae'n cyflogi hyd at 200 ar gyfnodau prysur.

Pryder

Yn Awst y llynedd roedd pryder y byddai'n rhaid i'r cwmni ddiswyddo staff yn sgil anghydfod rhwng landlordiaid y ffatri â'r cwmni cacennau.

Cafodd gweithwyr ffatri Cake Crew eu cloi allan am ddeuddydd ac roedd y gweithwyr a'r gymuned yn pryderu am ddyfodol y gwaith.

Ond daethpwyd i gytundeb ac ym mis Ionawr prynodd buddsoddwyr y cwmni'r safle.

Cafodd y cwmni ei greu yn 2011 ar ôl prynu asedau cwmni Becws Berwyn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.