Mewn lluniau: Dyrchafiad Caerdydd i'r Uwchgynghrair

17 Ebrill 2013 Diweddarwyd 10:23 BST

Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dathlu dyrchafiad i'r Uwchgynghrair am y tro cyntaf ers 1960.
Cefnogwyr Caerdydd
Daw llwyddiant Caerdydd 53 blynedd i'r diwrnod ers y tro diwethaf iddyn nhw gael eu dyrchafu i Brif Adran Cynghrair Lloegr.
Chwaraewyr Caerdydd
Dim ond gêm gyfartal yn erbyn Charlton Athletic oedd angen ar yr Adar Gleision i sicrhau dyrchafiad.
Cefnogwyr Caerdydd
Roedd yr awyrgylch yn ystod y gêm yn erbyn Charlton Athletic nos Fawrth yn drydanol.
Cefnogwyr Caerdydd yn dathlu
Ond dechreuodd y dorf ddathlu cyn gynted ag y sylddweddolon nhw fod Watford yn colli.
Cefnogwyr Caerdydd yn heidio i'r cae ar ddiwedd y gêm yn erbyn Charlton
Roedd cannoedd o gefnogwyr ar y cae ar ôl i'r chwiban olaf gael ei chwythu wrth i'r gêm orffen yn ddisgôr.
Cefnogwyr Caerdydd
Hwn yw'r pedwerydd tro i Gaerdydd gael eu dyrchafu i Brif Adran Lloegr.
Rheolwr Caerdydd Malky Mackay a chefnogwyr y clwb
Rheolwr Caerdydd Malky Mackay yng nghanol y dathlu
Craig Bellamy
Fe ddathlodd Craig Bellamy, sy'n hanu o Gaerdydd, gyda'r cefnogwyr yn dilyn y gêm.
Cefnogwr Caerdydd yn dathlu
Nid yw'r clwb wedi chwarae ym mhrif adran Cynghrair Lloegr er 1962.
Cefnogwyr Caerdydd yn dathlu
Mae'r Adar Gleision wedi bod ar frig y Bencampwriaeth ers mis Tachwedd.
Cefnogwyr Caerdydd yn dathlu
Cafodd y gêm ei gwylio gan fwy na 26,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Caerdydd
Cefnogwr Caerdydd yn dathlu
Disgwylir i ddyrchafiad y clwb fod yn fuddiol yn ariannol i'r Adar Gleision ac i'r brifddinas
Vincent Tan
Deellir fod gan berchennog y clwb Vincent Tan gynlluniau cyffrous ar gyfer yr Adar Gleision
Chwaraewyr Caerdydd
Mae perchennog y clwb Vincent Tan wedi dweud y byddai'n gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd ar ôl i'r Adar Gleision gael eu dyrchafu i'r Uwchgynghrair.