Angen pwynt ar yr Adar Gleision

Heidar Helguson Image copyright Araal
Image caption Niweidio llinyn y gar: Heidar Helguson

Mae angen pwynt ar yr Adar Gleision gartre' nos Fawrth yn erbyn Charlton cyn cael dyrchafiad i'r Uwchgynghrair.

Dyw tîm y brifddinas ddim wedi bod yn yr Uwchgynghrair am 51 o flynyddoedd.

Mae'r cefnogwyr yn hyderus gan fod tocynnau tymor y flwyddyn nesa' wedi eu gwerthu ond mae'r Adar Gleision yn wynebu tîm drechodd Barnsley 6-0.

Dywedodd y chwaraewr canol y cae Aron Gunnarsson: "Mae'r cefnogwyr yn haeddu gweld ni'n cyflawni'r gamp nos Fawrth.

'Gêm galed'

"Ond mae'n mynd i fod yn gêm galed, yn enwedig o gofio perfformiad Barnsley dros y penwythnos.

"Maen nhw'n dîm da iawn a bydd raid i ni berfformio'n ardderchog."

Ni fydd y blaenwr Heidar Helguson, 35 oed, yn chwarae gan ei fod wedi niweidio llinyn y gar yn y gêm yn erbyn Nottingham Forest ddydd Sadwrn.

Oherwydd anafiadau ni fydd y blaenwr Fraizer Campbell na'r amddiffynwr Matt Connolly yn chwarae chwaith.

Mae Charlton yn nawfed safle ar hyn o bryd. Dywedodd eu rheolwr Chris Powell: "Yn achlysurol, mae ein chware ni wedi bod yn siomedig eleni ond mae ein perfformiad yn ddiweddar yn dangos beth y gall ein chwaraewyr ni ei wneud."

Yn y cyfamser, mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi diolch i'r cefnogwyr am "aros yn ffyddlon yn ystod y flwyddyn" wedi newidiadau dadleuol, gan gynnwys newid lliw crysau'r clwb.

"Nid yn unig maen nhw wedi teithio yn eu niferoedd i gemau oddi cartre' ond maen nhw wedi creu awyrgylch drydanol yn y gemau cartre'."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.