Teyrngedau I'r Farwnes Thatcher yn y Cynulliad

Arch yn ystod yr ymarfer ar gyfer angladd y Farwnes Thatcher Image copyright Getty Images
Image caption Cynhaliwyd ymarfer ar gyfer angladd y Farwnes Thatcher ddydd Llun

Mae ACau'n rhoi teyrngedau i'r Farwnes Thatcher ar ôl dychwelyd i Fae Caerdydd wedi gwyliau'r Pasg.

Bydd aelodau'n nodi ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Prydain a baneri'r Cynulliad yn cael eu gostwng i'r hanner unwaith eto.

Ond mae cyn lywydd y sefydliad, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi dweud na fydd yn cymryd rhan.

Mi fydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn mynychu'r angladd seremoniol yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain ddydd Mercher.

Yn y cyfamser, mae corff y Farwnes Thatcher yn cael ei symud i gapel St Mary Undercroft yn San Steffan ac yn aros yno tan yr angladd.

Pleidlais

Bydd pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin i benderfynu a ddylid canslo sesiwn gwestiynau wythnosol y Prif Weinidog er mwyn caniatáu i ASau fynychu'r angladd.

Mae hynny'n dilyn ymgais gan ddau AS i rwystro cynllun y llywodraeth i ohirio busnes seneddol tan 1430 ddydd Mercher.

Mae'r ASau George Galloway (Respect) a Dennis Skinner (Llafur) wedi gwrthwynebu'r cynnig, sy'n golygu y bydd rhaid cael dadl a phleidlais cyn newid yr agenda.

Serch hynny, mae disgwyl y bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo wedi i Lafur ddweud na fyddai ei ASau yn ei wrthwynebu.

Straeon perthnasol