Carchar dyn o Gei Conna am oes am nifer o droseddau rhyw

David Edgerton Image copyright North Wales Police
Image caption Roedd David Edgerton wedi cyflawni nifer o droseddau rhywiol

Mae dyn o Gei Conna wedi ei garcharu am oes am nifer o droseddau rhyw, gan gynnwys cipio a threisio merch ysgol yn Sir y Fflint.

Roedd David Edgerton, 23 oed, wedi cyfadde' cipio a threisio'r ferch mewn coedwig yng Ngoed-llai ger Yr Wyddgrug ym mis Awst.

Clywodd y llys fod y ferch wedi rhoi neges ar Facebook yn ystod yr ymosodiad yn dweud "help" a "treisio".

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth gorchmynodd y Barnwr Merfyn Hughes QC fod Edgerton yn treulio isafswm o naw mlynedd dan glo cyn bod modd ystyried parôl.

Fe alwodd hefyd ar yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i esbonio i deuluoedd y merched a ddioddefodd pam bod Edgerton wedi bod â'i draed yn rhydd cyn hired er gwaetha'r ffaith fod nifer o gwynion wedi'u gwneud yn ei erbyn yn y gorffennol.

Roedd Edgerton wedi cyfadde'r ymosodiad ym mis Awst ac fe'i cafwyd yn euog fis Chwefror o geisio treisio a cheisio cipio merch ysgol arall yng Nghoed-llai yr un diwrnod ym mis Awst.

Straeon perthnasol