Caerdydd yn cyrraedd yr Uwchgynghrair

Y cefnogwyr yn dathlu ar y cae wedi'r gêm Image copyright Wales News Service
Image caption Y cefnogwyr yn dathlu ar y cae wedi'r gêm

Caerdydd 0-0 Charlton

Mae Caerdydd wedi ennill dyrchafiad i'r brif adran y tymor nesaf i herio Manchester United, Lerpwl, Chelsea....ac wrth gwrs Abertawe.

Roedd angen pwynt ar yr Adar Gleision gartre' nos Fawrth yn erbyn Charlton cyn cael dyrchafiad i'r Uwchgynghrair, a phwynt euraidd a gafwyd o flaen dros 26,000 o ffyddloniaid.

Dyw tîm y brifddinas ddim wedi bod yn yr Uwchgynghrair am 51 o flynyddoedd.

Roedd Charlton yn y nawfed safle cyn nos Fawrth ac wedi trechu Barnsley 6-0 yn eu gêm ddiwethaf, ond roedd yr Adar Gleision - oedd heb y blaenwyr Heidar Helguson a Fraizer Campbell a'r amddiffynwr Matt Connolly - yn edrych yn ddigon cyfforddus yn eu herbyn.

Ergyd gan Craig Bellamy, a sleifiodd heibio'r postyn, oedd yr agosaf y daeth Caerdydd i sgorio, cyn i Kim Bo-Kyung wastraffu cyfle da.

Cafwyd arbediad gwych gan David Marshall i rwystro Ricardo Fuller o Charlton cyn i Craig Noone feddwl ei fod yntau wedi sgorio cyn i'r llumanwr nodi ei fod yn cam-sefyll.

'Aros yn ffyddlon'

Mae'r clwb wedi bod o fewn trwch blewyn i ennill dyrchafiad i'r uwchgynghrair yn ystod y pedair blynedd diwethaf, gan golli tair gwaith mewn gemau ail gyfle.

Image caption Cadeirydd y clwb, Vincent Tan, yn dathlu

Ond y tro hwn, dan arweiniad Malky Mackay, maen nhw wedi bod ar frig yr adran ers Tachwedd 24 ac wedi cael eu dyrchafu gyda thair gêm i'w chwarae eto.

Mae Malky Mackay wedi diolch i'r cefnogwyr am "aros yn ffyddlon yn ystod y flwyddyn" wedi newidiadau dadleuol, gan gynnwys newid lliw crysau'r clwb.

"Nid yn unig maen nhw wedi teithio yn eu niferoedd i gemau oddi cartre' ond maen nhw wedi creu awyrgylch drydanol yn y gemau cartre'."

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 43 27 84
2. Hull 43 11 77
3. Watford 43 23 71
4. Brighton 43 18 66
5. Crystal P 42 10 66
6. Caerlyr 43 23 64

Straeon perthnasol