Oriel luniau'r angladd y Farwnes Thatcher

17 Ebrill 2013 Diweddarwyd 12:01 BST

Angladd y Farwnes Thatcher yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan St Paul's yn Llundain.
Arch y cyn brif weinidog Margaret Thatcher yn gorffwys yng Nghapel St Mary Undercroft o dan y Senedd
Arch y cyn brif weinidog Margaret Thatcher yn gorffwys yng Nghapel St Mary Undercroft o dan y Senedd cyn yr angladd ddydd Mercher.
Roedd miloedd wedi ymgasglu ar strydoedd Llundain ers ben bore i wylio'r orymdaith angladdol
Roedd miloedd wedi ymgasglu ar strydoedd Llundain ers ben bore i wylio'r orymdaith angladdol.
Pobl yn aros y tu allan i Gadeirlan St Paul's yn Llundain
Roedd rhai wedi cyrraedd yn gynnar i sicrhau golygfa dda o'r digwyddiadau ddydd Mercher.
Plismyn ar ddyletswydd yn Whitehall cyn i angladd y Farwnest Thatcher ddechrau
Roedd 4,000 o blismyn ar ddyletswydd fel rhan o ymgyrch ddiogelwch fawr ar gyfer yr angldd.
Roedd tua 2,300 o bobl o 170 o wledydd wedi cael gwahoddiad i'r angladd
Roedd tua 2,300 o bobl o 170 o wledydd wedi cael gwahoddiad i'r angladd.
Protestiwr yn dal baner
Roedd Phil Williams, o ogledd Cymru, ymhlith y rhai oedd wedi teithio i Lundain i gynnal protestiadau ar strydoedd y ddinas ddydd Mercher.
Yr arch yn cael ei throsglwyddo i'r hers
Cafodd corff y Farwnes Thatcher ei gludo o Balas San Steffan i Gapel St Clement Danes, cyn cael ei gario ar gar gwn i Gadeirlan St Paul's.
Gwesteion yn cyrraedd ar gyfer yr angladd yng Nghadeirlan St Paul's
Gwesteion yn cyrraedd ar gyfer yr angladd yng Nghadeirlan St Paul's
Arch y Farwnes Thatcher yn cael ei gario yng Nghadeirlan St Paul's
Roedd ŵyr a wyres y Farwnes Thatcher, Michael ac Amanda Thatcher, yn cerdded o flaen yr arch wrth iddi gyrraedd Cadeirlan St Paul's