Cyfarwyddwr Sherman Cymru yn gadael

Chris Ricketts Cyfarwyddwr Sherman Cymru Image copyright Media Wales Limited
Image caption Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw ail adeiladwyd theatr y Sherman

Mae Cyfarwyddwr Sherman Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd.

Dywedodd Chris Ricketts ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi er mwyn dilyn diddordebau eraill yn y byd celfyddydol.

Mi fydd yn parhau yn ei swydd tan y bydd olynydd yn cael ei ddewis.

Ymunodd â'r cwmni yn 2007 a chwblhau cyfuno Sherman Cymru a Sgript Cymru.

Yn ystod ei gyfnod datblygwyd rhaglen artistig newydd, gan gynnwys Llwyth a Deep Cut.

Yn Chwefror 2012 ailagorodd adeilad Theatr y Sherman ar ei newydd wedd ar ôl buddsoddiad o £7 miliwn.

Dywedodd Mr Ricketts: "Mae wedi bod yn fraint i arwain Sherman Cymru, gweithio gyda chymaint o bobl dalentog ac ymroddedig, a bod gymaint o artistiaid a chynyrchiadau eithriadol wedi perfformio yma.

"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae wedi bod yn fraint gweld y Sherman yn ailagor ac yn gwireddu ei rôl arbennig o fewn diwylliant bywyd Caerdydd."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.