Dechrau gwych i Forgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Cafodd Morgannwg ddechrau gwych yn eu hail gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd ddydd Mercher.

Erbyn te roedd Sir Gaerwrangon i gyd allan am 123 yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd.

Arwyr y tîm cartref oedd y bowliwr cyflym o Awstralia Michael Hogan a Michael Reed, y ddau'n cymryd naw o wicedi.

Roedd Sir Gaerwrangon wedi sgorio 55 rhediad cyn colli eu hail wiced.

Ond syrthiodd pum wiced am ddim ond 14 rhediad wrth i Hogan a Reed chwalu batiad cyntaf yr ymwelwyr.

Cymerodd Reed bum wiced am 28 rhediad oddi ar 16.1 pelawd, perfformiad bowlio gorau ei yrfa, a chipiodd Hogan bedair wiced am 33 rhediad oddi ar 19 pelawd.

Capten yr ymwelwyr Daryl Mitchell a Moeen Ali oedd prif sgorwyr Sir Gaerwrangon, y ddau'n sgorio 20 rhediad.

Fe ddaeth y tywydd i amharu ar ddiwedd y diwrnod, ond bu'n rhaid i Ben Wright a Will Bragg wynebu pelawd yr un cyn cloi. Doedd dim sgôr.

Morgannwg v Sir Gaerwrangon - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Sgôr ar ddiwedd y diwrnod cyntaf :-

Caerwrangon (batiad cyntaf) 123 (63.1 pelawd)

Morgannwg (batiad cyntaf) 0 am 0 (2.1 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.