Papurau banc prin o dan y morthwyl

Papurau banc
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd llawer o fanciau preifat

Mae papurau banc prin, gan gynnwys rhai o Gymru, o dan y morthwyl yn Llundain ddydd Iau a Gwener.

Y miliwnydd David Kirch sy'n gwerthu ei gasgliad ac mae rhai wedi dweud ei fod yn werth mwy na £1.5m.

Dywedodd Mr Kirch y byddai'r arian yn mynd i elusennau.

Yn ôy arwerthwr David Rogers Jones o Fae Colwyn: "Mae'r casgliad yn hynod o ddiddorol ac mi fydd 'na 800 o eitemau. Does dim llawer o dan £200.

'Cymaint ohonyn nhw'

"Mi oedd 'na lawer o fanciau preifat yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

"Mae 'na gymaint ohonyn nhw o edrych ar yr eitemau yn y casgliad, er enghraifft Banc Caergybi a Môn, Banc Gogledd a De Cymru, Banc Brycheiniog, Banc Crughywel a Banc y Gelli Gandryll.

"Beth sy'n ddifyr yw bod cymaint ohonyn nhw o fewn ardaloedd bychan.

"Mae rhywun yn gofyn: 'Sut y dechreuon nhw a sut yr oeddan nhw'n cael hawl i sefydlu banc?'"

Yr arwerthwr yw Spink yn Bloomsbury, Llundain.