Morgannwg yn mynd ar y blaen

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Bu'n rhaid i Forgannwg frwydro'n galed am rediadau yn eu batiad cyntaf yn erbyn Sir Gaerwrangon ar ail ddiwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Stadiwm Swalec, Caerdydd ddydd Iau.

Ond erbyn diwedd y dydd roedd Morgannwg wedi mynd ar y blaen o 112 o rediadau gyda thair wiced yn weddill yn eu batiad cyntaf.

Bowliodd y tîm cartref Sir Gaerwrangon i gyd allan am 123 ar ddiwrnod cynta'r ornest ddydd Mercher.

Ar ôl dechrau araf, fe aeth y batwyr i hwyliau ddydd Iau gyda chyfraniadau gwerthfawr gan Ben Wright (40) a Marcus North (48) cyn i Jim Allenby sgorio 71 heb fod allan.

Bydd Morgannwg yn gobeithio ychwanegu mwy o rediadau cyflym ar y trydydd diwrnod er mwyn creu targed sylweddol i'r ymwelwyr.

Morgannwg v Sir Gaerwrangon - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Sgôr ar ddiwedd yr ail ddiwrnod:-

Caerwrangon (batiad cyntaf) 123 (63.1 pelawd)

Morgannwg (batiad cyntaf) 235 am 7 (89 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.