Cymraes wedi anafu mewn damwain bws

Damwain bws yr Alpau Image copyright Reuters
Image caption Roedd y bws wedi bod yn cludo staff adref i'r DU ar ddiwedd y tymor gwyliau

Daeth adroddiadau i law bod merch o Wrecsam yn un o dri pherson o Brydain a anafwyd yn ddifrifol mewn damwain bws yn yr Alpau yn Ffrainc.

Cadarnhaodd y Swyddfa Dramor bod merch 19 oed o'r enw Catrin Pugh yn yr ysbyty yn Ffrainc, a bod ei theulu wedi cael cynnig cymorth llysgenhadol.

Credir ei bod yn teithio adref ar ôl gweithio yn Ffrainc dros y tymor sgïo.

Roedd dros 50 o bobl ar y bws pan fu mewn gwrthdrawiad cyn mynd ar dân ger Alpe d-Huez ddydd Mawrth.

Cafodd tri o Brydain eu hanafu yn y digwyddiad, ac fe laddwyd y gyrrwr Maurice Wrightson, 63 oed o Northumberland.

Roedd y bws wedi bod yn cludo staff cyrchfan sgïo adre i'r DU ar ddiwedd y tymor gwyliau.

Digwyddodd y ddamwain wrth i'r bws ddod i lawr allt serth sydd â 21 o fachdroeon arni, ac sy'n cael ei defnyddio'n aml yn ras feicio flynyddol y Tour de France.

Mae'r heddlu amau bod nam am frêcs y cerbyd.

Dywedodd swyddogion yn Ffrainc bod Mr Wrightson wedi dangos "dewrder rhyfeddol" drwy adael i'r bws daro yn erbyn creigiau yn hytrach na chymryd risg y byddai'n mynd dros ddibyn.