Llewod: Warburton yn ffefryn i arwain

Sam Warburton Image copyright Getty Images
Image caption Sam Warburton arweiniodd Cymru at y Gamp Lawn yn 2012

Mae cwmni betio Ladbrokes wedi atal betio ar bwy fydd capten tîm rygbi'r Llewod yn Awstralia yn yr haf.

Daw hyn wedi i lawer iawn o arian gael ei fetio dros y 48 awr ddiwethaf ar flaenasgellwr Cymru Sam Warburton.

O ganlyniad mae'r ods ar Warburton i fod yn gapten ar y daith wedi newid o 3-1 i 4-7 ac ef yw'r ffefryn bellach i ddechrau'r prawf cyntaf fel capten yn Brisbane ar Fehefin 22.

Dywedodd llefarydd ar ran Ladbrokes, Jessica Bridge: "Dros y chwe mis diwethaf mae Warburton wedi mynd o fod yn bosibilrwydd i fod yn ffefryn clir.

'Penderfyniad'

"Mae'n ymddangos bod Warren Gatland (hyfforddwr y Llewod) wedi gwneud ei benderfyniad."

Warburton oedd capten Cymru yng Nghwpan y Byd 2011 a thîm y Gamp Lawn yn 2012 ond dim ond unwaith y bu'n gapten yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, gyda Ryan Jones a Gethin Jenkins yn arwain y tîm i'r bencampwriaeth.

Does dim disgwyl i Gatland gyhoeddi ei ddewis fel capten tan y bydd y garfan yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol yn Llundain ar Ebrill 30.

Credir bod Brian O'Driscoll a Paul O'Connell o Iwerddon yn bosibiliadau i arwain y tîm yn ogystal.

Straeon perthnasol