Bale ar ddwy restr fer

Gareth Bale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Bale bum gôl mewn pedair gêm i Gymru

Mae'r Cymro Gareth Bale wedi cael ei enwebu ar y rhestr fer am wobr Pêl-droediwr y Flwyddyn.

Mae enw Bale hefyd wedi ei gynnwys ar y rhestr fer am chwaraewr ifanc y flwyddyn gan gymdeithas y pêl-droedwyr proffesiynol y PFA.

Bale oedd enillydd y brif wobr yn nhymor 2010-11 hefyd.

Ag yntau bellach yn 23 oed, mae Bale wedi chwarae 38 o gemau i'w glwb Tottenham Hotspur y tymor hwn gan sgorio 22 o goliau.

Mae e hefyd wedi sgorio 5 gôl mewn pedair gêm i Gymru y tymor hwn, a'r rheini'n gemau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia, Yr Alban a Croatia ynghyd â gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria.

Yr enwau eraill ar y rhestr fer am y brif wobr yw Michael Carrick a Robin van Persie o Manchester United, Eden Hazard a Juan Mata o Chelsea, a Luis Suarez o Lerpwl.

Ar y rhestr fer am wobr y chwaraewr ifanc gyda Bale mae Christian Benteke o Aston Villa, Danny Welbeck o Man.Utd., Eden Hazard o Chelsea, Romelu Lukaku o West Bromwich Albion (ar fenthyg o Chelsea) a Jack Wilshere o Arsenal.

Straeon perthnasol