Prestatyn: 'Cynnau tân yn fwriadol'

Gyda'r clock o'r chwith: Liam Timbrell; Lee-Anna Shiers a'i mab Charlie; nith Skye a nai Bailey Image copyright Facebook
Image caption Bu farw pum aelod o'r un teulu yn y tân

Fe gafodd tân laddodd bum aelod o'r un teulu ei gynnau'n fwriadol gan rywun oedd yn dal fflam at gadair wthio plentyn.

Dyna glywodd achos llofruddiaeth Lee-Anna Shiers, ei phartner Liam Timbrell, mab y ddau Charlie a nith a nai Lee-Anna, Skye a Bailey Allen.

Dywedodd arbenigwr tân wrth Llys y Goron Yr Wyddgrug nad oedd tystiolaeth o nam trydanol na chyflenwad trydan diffygiol.

Mae Melanie Smith, 42 oed, oedd yn byw yn y fflat o dan un y teulu, wedi gwadu llofruddiaeth.

Hefyd mae wedi gwadu bygwth cynnau tân yng nghartref menyw arall, Samantha Schofield, yn sgîl honiadau iddi gael perthynas gyda phartner Ms Smith.

Ymchwiliad trylwyr

Clywodd y llys nad oedd modd i'r teulu ddianc o'r tân drwy'r ffenest ar y llawr cyntaf heb dorri'r gwydr.

Fe fyddai hynny wedi bod yn anodd iawn, yn ôl yr ymgynghorydd ymchwilio tanau Stephen Andrews.

Yn dilyn ymchwiliad trylwyr dywedodd ei fod yn credu i'r tân gael ei gynnau'n fwriadol drwy ddal fflam yn erbyn cadair wthio plentyn oedd yng nghyntedd y bloc o fflatiau.

Ychwanegodd ei bod yn ymddangos bod Mr Timbrell wedi ceisio torri ffenestri'r fflat ond yn aflwyddiannus.

Roedd teledu yn y fflat wedi toddi, gan awgrymu bod y tymheredd yn y fflat wedi cyrraedd rhwng 170 a 200 gradd Celsius.

O'r blaen clywodd y llys fod cymdogion wedi gwneud ymdrechion arwrol i achub y teulu o'r tân ond bod y fflamau wedi bod yn ormod.

Straeon perthnasol