Digwyddiad amheus: Heddlu'n ymchwilio

Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i adroddiadau bod dyn mewn car tywyll wedi cynnnig lifft i blant
Image caption Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i adroddiadau bod dyn mewn car tywyll wedi cynnnig lifft i blant

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i adroddiadau bod dyn mewn car du wedi cynnig lifft i ddau blentyn ysgol ger Aberteifi.

Dywed yr heddlu fod y dyn gyda gwallt llwyd wedi stopio'r car wrth ymyl y plant, oedd yn gwisgo gwisg ysgol Ysgol Penparc tua 3.30pm ddydd Llun.

Fe gafodd y car gyda ffenestri tywyll ei weld yn teithio i gyfeiriad Tremain wedi i'r plant wrthod y cynnig am lifft.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.