Cofio Richard Price: 'Meddyliwr mwyaf gwreiddiol Cymru'

Dr Richard Price Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Dr Price oedd 'meddyliwr mwyaf gwreiddiol Cymru, yn ôl yr hanesydd Dr John Davies

Mae mudiad wedi ei lansio i gofio'r athronydd a'r mathemategydd o'r 18fed ganrif y Dr Richard Price.

Roedd y digwyddiad yng Nghanolfan Richard Price yn Llangeinor ger Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys agoriad arddangosfa am ei waith a'i fywyd.

Cafodd ei eni yn Llangeinor yn 1723 ac roedd yn athronydd oedd yn ddylanwadol yn natblygiad democratiaeth.

Hefyd roedd yn fathemategydd a'i waith yn sail i'r diwydiant yswiriant a phensiynau.

Roedd yn cefnogi'r syniad o bensiynau henoed a thâl salwch ac yn 1789 gofynnodd Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin iddo lunio tablau ar gyfer hyn.

Agorwyd yr arddangosfa gan faer y cyngor sir, y Cynghorydd Marlene Thomas.

'Ffurfio'r byd modern'

"Mae cyfraniad Richard Price at Oes y Goleuo yn y 18fed ganrif yn enfawr." meddai Ysgrifennydd Cymdeithas Richard Price, Paul Frame.

"Rydym am ddangos fod ei waith wedi ffurfio'r byd modern."

Roedd ei ddaliadau crefyddol a gwleidyddol yn radicaaidd a daeth i'r amlwg fel pregethwr yng nghapeli anghydffurfiol de Cymru a Llundain ac roedd yn weinidog yn Newington a Hackney.

Dadleuodd fod grym llywodraethau yn deillio o ymddiriedaeth y bobl a dim ond mynnu'r un hawliau oedd chwyldrowyr Ffrainc ac America yn y cyfnod hwnnw.

Galaru cenedlaethol

Ym 1789, wrth i gwymp y Bastille nodi buddugoliaeth Chwyldro Ffrainc, achosodd ei bregeth ddadl rhwng athronwyr yr asgell chwith a'r asgell dde.

Dywedodd Edmund Burke fod Price a'i gyd radicaliaid yn "the hopping insects of the hour" ond cytunodd Tom Paine â safbwynt Price yn ei lyfr enwog The Rights of Man.

Bu farw Dr Price ar Ebrill 19 1791 ac i nodi hynny, cynhaliodd Ffrainc ddiwrnod o alaru cenedlaethol.

Yn ei lyfr Hanes Cymru mae John Davies yn dweud mai Price oedd "y meddyliwr mwyaf gwreiddiol a fagodd Cymru erioed".

Yn 2004 cafodd ei ddewis yn rhif 39 ym mhleidlais Arwr Cymru gafodd ei threfnu gan Culturenet Cymru.