Morgannwg mewn sefyllfa gref

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Fe gafodd cricedwyr Morgannwg ddiwrnod llewyrchus gyda'r bat a'r bêl ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Gaerwrangon yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Erbyn diwedd y chwarae roedd Sir Gaerwrangon 14 rhediad y tu blaen i sgôr batiad cyntaf Morgannwg gyda dim ond pum wiced yn weddill yn eu hail fatiad.

Bydd yn rhaid i fowlwyr yr ymwelwyr fatio'n wych gyda chwaraewr prawf Sri Lanka Thilan Samaraweera ddydd Sadwrn i atal Morgannwg rhag ennill eu gêm gyntaf o'r tymor.

Dechreuodd Morgannwg y bore 'ma ar gyfanswm o 235 am 7 wiced yn eu batiad cyntaf yn Stadiwm Swalec.

Roedd Jim Allenby ar 71 heb fod allan dros nos, ond fe gollodd ei wiced yn fuan am 78.

Ond yna fe ddaeth cyfraniad sylweddol ac annisgwyl gan y troellwr Dean Cosker wedi i Graham Wagg fod allan am 24.

Pan gollodd Morgannwg eu wiced olaf ychydig cyn cinio, roedd Cosker wedi sgorio 44 heb fod allan, ond fe redodd allan o bartneriaid.

Daeth y batiad i ben ar 295 - mantais o 172 dros yr ymwelwyr.

Cafodd Sir Gaerwrangon ddechrau gwael i'w hail fatiad wrth i Graham Wagg fowlio Matthew Pardoe am ddim gyda thrydedd bêl y batiad.

Daliodd Will Bragg capten yr ymwelwyr, Daryl Mitchell, oddi ar fowlio Jim Allenby am 10 wedi i'r agorwr a Moeen Ali ychwanegu 49 am yr ail wiced.

Bowliodd Bragg Ali am 55 gyda'r sgôr ar 97 a thoc wedi hynny daliodd Allenby Alexei Kervezee oddi ar fowlio Bragg am ddim.

Cymerodd y bowliwr cyflym o Awstralia Michael Hogan ei wiced gyntaf o'r batiad gan faglu Neil Pinner goes o flaen wiced am 13.

Ond batiodd y batiwr prawf profiadol o Sri Lanka Thilan Samaraweera (71 heb fod allan) a'r wicedwr Michael Johnson (17 heb fod allan) yn ofalus gan ychwanegu 48 rhediad am y chweched wice wrth i Sir Gaerwrangon orffen y dydd ar 186 am 5 wiced.

Bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd Will Bragg a gymerodd ddwy wiced am 10 rhediad oddi ar dim on tair pelawd.

Bydd Morgannwg yn gobeithio cael gwared â Samaraweera, sydd wedi sgorio 14 cant mewn gemau prawf dros ei wlad - yn gynnar ddydd Sadwrn cyn ceisio selio'r fuddugoliaeth yn ystod y prynhawn.

Morgannwg v Sir Gaerwrangon - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Sgôr ar ddiwedd y trydydd diwrnod:-

Caerwrangon (batiad cyntaf) 123 (63.1 pelawd)

Morgannwg (batiad cyntaf) 295 (108.4 pelawd)

Caerwrangon (ail fatiadf) 186-5 (74.0 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.