Bryste yn gwneud ffafr â Chaerdydd

Er nad yw Clwb Pêl-droed Caerdydd yn chwarae tan ddydd Sadwrn, bu bron iddyn nhw ennill y bencampwriaeth nos Wener ar ôl gêm ddi-sgôr Hull City a Bristol City.

Fe all Hull ddod yn gyfartal ar bwyntiau gyda Chaerdydd, ond mae gwahaniaeth goliau Caerdydd llawer gwell ac felly dim ond posibilrwydd mathemategol sydd ganddyn nhw.

Mae disgwyl i'r Adar Gleision sicrhau'r bencampwriaeth ddydd Sadwrn oddi cartref yn Burnley.

Enillwyd dyrchafiad i'r Uwchgynghrair y tymor nesa' ar ôl gêm ddi-sgôr gartref yn erbyn Charlton nos Fawrth.

Fe ddigwyddodd union 53 blynedd i'r diwrnod ers i Gaerdydd ennill eu dyrchafiad diwetha' i'r brif adran bêl-droed - a dyma'r tro cynta' iddyn nhw chwarae yn yr Uwchgynghrair ar ei ffurf bresennol.

TABL Y BENCAMPWRIAETH
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. CAERDYDD 43 27 84
2. Hull 44 11 78
3. Watford 43 23 71
4. Brighton 43 18 66
5. Crystal P 42 10 66
6. Caerlŷr 43 23 64

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC